Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Ionawr 2018
Amser:
14.00 -
16.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4503
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru Mike Usher Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC a oedd yn mynychu digwyddiad defnyddwyr gwasanaeth rhanbarthol Cefnogi Pobl Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
2.1 Nodwyd y papurau. Yn benodol, cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
· Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddigartrefedd: Bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r Adroddiad at John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac yn gofyn am ymgymeriad o ran a oes gan y Pwyllgor y gallu i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn ac os felly, rhoi llinell amser.
· Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch pam y cynhaliwyd yr adolygiad sero ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unig ac a yw trosolwg o fewn GIG Cymru wedi'i gynnal/wedi'i gynllunio ar ei effeithlonrwydd.
· Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad o pam nad yw system arlwyo Cymru Gyfan wedi'i darparu eto ac ni ddisgwylir iddi fod ar gael fel rhywbeth 'yn ôl y gofyn' tan 2019, yn ogystal â gofyn am linell amser ar gyfer yr Adolygiad Gateway o System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
3.1 Trafododd yr Aelodau adolygiad Llywodraeth Cymru - Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel - a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder o'r amserlen ar gyfer gweithredu'r argymhellion sy'n ymwneud â'r strategaeth diogelwch cymunedol.
4.1 Cynhaliodd yr aelodau sesiwn ragarweiniol gyda Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn dilyn eu penodiad diweddar.
4.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:
· Diweddariad ar elfennau codio y rhaglen Hwb (gwefan a chasgliad o adnoddau ar-lein a ddarperir i bob ysgol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru).
4.3 Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol:
· Darparu nodyn ar y gydberthynas sydd gan Lywodraeth Cymru â Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU;
· Darparu nodyn dilynol ar y tablau yng nghyd-destun modelu'r economi fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Economaidd;
· Anfon nodyn i ddiweddaru sut y mae'r pwerau arfaethedig i roi mwy o ymreolaeth i Trafnidiaeth Cymru yn mynd rhagddynt; a'r
· Sylw i Gymru o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw o fethdaliad Carillion.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o argymhellion ychwanegol.
6.2 Bydd y Clercod yn diwygio'r adroddiad drafft ac yn ei ddosbarthu i'r Aelodau, i'w gytuno, drwy e-bost.
7.1 Nododd yr Aelodau gyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Systemau Gwybodeg GIG Cymru ar 11 Ionawr. Dim ond yn ddiweddarach yn y tymor y disgwylir i ymateb Llywodraeth Cymru gael ei dderbyn ac oherwydd ei bod eisoes wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r materion, bydd y Clercod yn trefnu i dystion fynychu'r Pwyllgor yn ystod tymor yr haf.
7.2 Trafododd yr Aelodau y materion ariannol sy'n ymwneud â'r diwydiannau ffilm a'r cyfryngau sydd wedi dod i sylw'r cyhoedd yn ddiweddar. Cytunwyd y dylai Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ystyried materion polisi ac y dylid cyfeirio unrhyw faterion rheoli ariannol i'r Pwyllgor hwn. Nodwyd fod disgwyl i ymateb yr Archwilydd Cyffredinol i bryderon a godwyd mewn gohebiaeth gael ei dderbyn yn ystod wythnos 22 Ionawr. Ar ôl ei dderbyn, bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater.
8.1 Nodwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad.